Newyddion

Teyrnged i Lyn Lewis Dafis

Annwyl gyfeillion

Yn y lle cyntaf, a gaf innau gydymdeimlo â’r perthnasau yn eu galar – ei chwaer Mandy a’r teulu a’i frawd Robert. Rydych chi wedi colli brawd ac ewythr arbennig iawn, a ninnau i gyd wedi colli cyfaill hoff. A gaf fi hefyd gydymdeimlo â thîm bugeiliol Bro Padarn. Rydych chithau wedi colli cydweithiwr gwerthfawr a chyfaill annwyl iawn.

Fe anwyd Lyn ym Mynachlog-ddu, Sir Benfro yn 1960, yn fab i Dai a Sally Davies. Dilynwyd ef yn ddiweddarach gan ei chwaer Mandy a’i frawd Robert. Gweithio fel lengthman i Gyngor Sir Benfro yr oedd ei dad, Dai, yn cadw ffyrdd y sir yn daclus gyda’i dractor a’i offer. Cynorthwyydd cartref, ‘home-help’ oedd ei fam, Sally, ac yn fenyw weithgar iawn yn yr ardal. Cafodd Lyn ei addysg gynnar yn Ysgol Gynradd Mynachlog-ddu, ac wedyn ymlaen i Ysgol y Preseli yng Nghrymych. Oddi yno fe aeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, fel yr oedd y pryd hwnnw. Graddio yn y Gymraeg yn 1981, a mynd yn ôl i Sir Benfro am bedair blynedd i weithio gyda Llyfrgell Dyfed yn Hwlffordd. Yn 1985, fe ddychwelodd i Aber i wneud y cwrs mewn llyfrgellyddiaeth, ac wedi blwyddyn mynd yn ôl i fyd llyfrgelloedd cyhoeddus, gan symud y tro hwn i Forgannwg Ganol. Yno roedd o’n llyfrgellydd yn Ysgol Llanharri ac yn gwasanaethu’r canghennau lleol hefyd. Yn 1989, fe’i penodwyd i swydd yn Adran Printiadau, Mapiau a Lluniau y Llyfrgell Genedlaethol, ac yn y Llyfrgell y bu nes iddo adael yn 2014. Fe wnaeth ei gyfraniad mwyaf yn y Llyfrgell pan fu datblygiadau mawr yn y technegau o ddigido deunydd er mwyn ei roi ar y we, a thrwy hynny sicrhau fod y deunydd ar gael yn hwylus i gynulleidfa eang. Fe gymerodd Lyn at y dechnoleg newydd ac fe wnaeth ef a’r timau yr oedd yn gweithio gyda nhw waith gwirioneddol arloesol yn y maes hwn. Fe roddwyd casgliadau gwerthfawr megis lluniau John Thomas, Lerpwl a lluniau Geoff Charles ar y we, ac fe ddilynwyd hynny gan y cynllun i ddigido cyfnodolion. O 2009 tan 2014, Lyn oedd Pennaeth yr Uned Datblygu Digido yn y Llyfrgell. Tra oedd o yn Aberystwyth fe fu’n weithgar gyda sawl mudiad, ac yn gymwynaswr parod i lu o bobl a mudiadau gan gynnwys Cyngor Llyfrau Cymru. Fe fu’n gynghorydd tref am bedair blynedd, ac fe fu’n undebwr llafur brwd ac effeithiol iawn yn y Llyfrgell. Fe olygodd o Tafod y Ddraig, cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am flynyddoedd lawer, fe olygodd o’r Llan, newyddiadur yr Eglwys yng Nghymru, fe fu’n golofnydd teledu i Barn, ac fe gyfrannodd i sawl cyhoeddiad arall megis Cristion. Ond y tu allan i’w waith ei brif ymrwymiad oedd ei weithgarwch yn Eglwys y Santes Fair. Erbyn iddo gyrraedd Aber, roedd y Bedyddiwr o Fynachlog-ddu wedi troi’n eglwyswr brwd a gweithgar. Fe’i trwyddedwyd yn ddarllenydd lleyg, ac roedd ei gyfraniad i Eglwys Fair ac i’r cylch eglwysig ehangach yn un helaeth iawn. Yn 2014 fe adawodd Lyn y Llyfrgell a mynd am flwyddyn i Goleg St Mihangel yn Llandâf i’w hyfforddi’n offeiriad. Fe’i ordeiniwyd yn ddiacon yn 2015 ac yna’n offeiriad yn 2016. Yn haf 2015 fe ddaeth i fyw i Benrhyn-coch, gan wasanaethu yn bennaf yn Eglwys St Ioan, y Penrhyn ac Eglwys St Pedr, Bont-goch, yn rhan o grŵp o bedair eglwys wedi’i ganoli ar Lanbadarn. Ym Mehefin y llynedd fe’i gwnaed yn Weinidog Cynorthwyol yn AW Bro Padarn ac yn ogystal yn Swyddog y Gymraeg a Dwyieithrwydd Esgobaeth Tyddewi, swydd oedd yn ei siwtio i’r dim. Yn wir un o’i weithgareddau olaf oedd rhoi sgwrs sylweddol i staff meddygfeydd lleol i ddangos iddynt beth oedd pwysigrwydd iaith i’r claf.

Mi ydw i am geisio crynhoi fy sylwadau am Lyn o dan dri phennawd: y cefndir ym Mynachlog-ddu, nodweddion Lyn, a chrefydd Lyn. Fe fagwyd Lyn mewn ardal arbennig iawn: y Preselau, gwlad hud a lledrith, un o’r ardaloedd sy’n amlwg ym Mhedair Cainc y Mabinogi; hefyd ardal Merched Beca, ymladdwyr yn erbyn gorthrwm; gwlad y Bedyddwyr, wedi lledu allan o’r fam eglwys yn Rhydwilym, enwad oedd wedi’i nodweddu’n wreiddiol gan amharodrwydd i gydymffurfio mewn byd ac eglwys. Ac wrth gwrs dyma ardal Waldo Williams, un o feirdd Cymraeg mawr yr ugeinfed ganrif. ‘O! Gymru’r gweundir gwrm a’r garn / Magwrfa annibyniaeth barn, / Saif dy gadernid uwch y sarn / O oes i oes. / Dwg ninnau atat: gwna ni’n ddarn / O’th fyw a’th foes.’ Fe gafodd ei fagwraeth yn yr ardal hon ddylanwad cwbl ffurfiannol ar Lyn weddill ei oes. Rwy’n ei gofio yn dweud wrthyf fwy nag unwaith mai un o’r bobl gafodd y dylanwad mwyaf arno oedd Tonwen Adams. Roedd hi’n athrawes arno yn yr ysgol gynradd, roedd hi’n athrawes ysgol sul arno ym Methel, Mynachlog-ddu a hi hefyd oedd yn rhedeg adran ac aelwyd yr Urdd yn y pentref. Roedd hi’n

rhoi ei chyfan i’r plant oedd dan ei gofal. O ran ei syniadau gwleidyddol a chymdeithasol, fe arhosodd Lyn yn gwbl driw i’r hyn a ddysgodd yn ei blentyndod: cariad at Gymru, ei hiaith a’i diwylliant; cariad at heddwch, fel ag a ddangoswyd gan heddychwyr fel Waldo ac R Parri Roberts, gweinidog Bethel am ddeugain mlynedd; cariad at gyfiawnder cymdeithasol, fel yn achos Merched Beca, a’r parodrwydd i ymdrechu drosto. Does dim syndod felly i Lyn fod yn weithgar gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg, gyda Phlaid Cymru, gyda mudiadau heddwch, a chyda’r undebau llafur. Dyna’r gynhysgaeth a gafodd yn blentyn. ‘Mur fy mebyd, Foel Drigarn, Carn Gyfrwy, Tal Mynydd, / Wrth fy nghefn ym mhob annibyniaeth barn.’

Beth oedd nodweddion cymeriad a phersonoliaeth Lyn? Yn gyntaf roedd ganddo allu meddyliol anghyffredin. Welais i neb oedd yn gallu meistroli hanfodion pwnc mor drwyadl a chyflym â Lyn. Pan oeddech chi’n trafod gwahanol bynciau gydag ef, boed yn grefydd, hanes crefydd, gwleidyddiaeth neu beth bynnag, roedd hi’n amlwg ei fod wedi darllen yn helaeth a beirniadol yn y maes, ac yn glir am ei safbwynt. Ac os holech chi gwestiwn roedd o’n gallu rhoi ateb clir i chi. Mae Mandy ei chwaer yn dweud nad ydi hi’n cofio Lyn yn gwneud fawr ddim gartref ond darllen, a hynny er pan oedd o’n ddim o beth, ac fe barhaodd hynny hyd at y diwedd bron. Roedd ganddo feddwl gwreiddiol, aflonydd, ymchwilgar, meddwl oedd wastad yn chwilio am rywbeth newydd i’w ddeall. Dyna rwy’n credu pam y gwnaeth o gymaint o gyfraniad yn maes digido: roedd o’n faes newydd, cyffrous oedd yn datblygu’n gyflym, ac roedd Lyn wrth ei fodd yn cadw i fyny efo’r datblygiadau diweddaraf, a’u cymhwyso ar gyfer Cymru. Un o ddiddordebau mawr Lyn oedd iaith a ieithoedd. Wrth ddilyn ei radd Gymraeg, fe wnaeth lawer iawn o’r cyrsiau iaith oedd ar gael megis Galeg, Gwyddeleg a Llydaweg. Ac fe barhaodd y diddordeb hwnnw. Wrth gwrs, ieithoedd lleiafrifol oedd ei ddiddordeb, ieithoedd yr oedd ei siaradwyr wedi bod dan ormes, megis yn achos y Gymraeg. Fe astudiodd gryn lawer ar Fasgeg, er enghraifft, a’r Iseldireg a siaredir yn Fflandrys, a’r un ddiweddaraf iddo ymgodymu â hi oedd iaith y Maori. Wrth gwrs, roedd mynd i’r afael â iaith newydd hefyd yn dangos yr awydd anniwall am feistroli rhywbeth newydd, diddorol. Nodwedd arall gwbl hanfodol i’w bersonoliaeth oedd yr asbri a’r direidi dihafal oedd yn pefrio ohono. Roedd ei ddireidi a’i feddwl gwreiddiol yn cyfuno’n aml i greu pethau cwyrci iawn, ac eithriadol o ddoniol. Mae llawer ohonoch chi’n cofio Blog Dogfael a fu’n rhedeg am rai blynyddoedd tua dechrau’r ganrif. Fu yna erioed ddim tebyg iddo. Mi gaech chi ddisgrifiadau manwl o’i wyliau, resipis am bob math o fwydydd, sylwadau weithiau ar faterion y dydd, ond hefyd lluniau o siopau Spar, lluniau o Australian Airline Meals, o bopeth, ac wrth gwrs ‘Beth mae DML yn ei ddarllen’, sef rhestr o beth oedd ei gyd-letywr, Dafydd Morgan Lewis, yn ei ddarllen ar y pryd. Mewn fflat ar lawr isaf cartref Alun a Megan Creunant ym Maes Lowri yr oedd Lyn a Dafydd ar y pryd. Yn ystod Eisteddfod y Bala 1997, fe welodd Lyn le o’r enw Plas yn Dre, ac fe’i cyfareddwyd gan yr enw ac yn syth fe ailfedyddiwyd y fflat ym Maes Lowri yn Plas yn Dogfael. Yn yr un modd pan welodd o fod y diweddar Robyn Lewis, y cyn Archdderwydd, yn sillafu ei gyfenw, Lewis gyda acen, neu strac, uwchben yr ‘e’, roedd raid iddo yntau hefyd gael strac ar ei Lewis. Doedd ecsentrigrwydd yn sicr ddim yn rhywbeth i’w gyfyngu i archdderwyddon. Ac o sôn am yr Orsedd roedd Lyn yn ei chyfri’n anrhydedd cael ei dderbyn i urdd Derwydd yn Eisteddfod Tyddewi 2002, a’i enw yng ngorsedd wrth gwrs oedd Dogfael. Dawn arall oedd yn amlwg iawn yn Lyn oedd y ddawn i berfformio, ac fe rannodd yn rhydd iawn o’i ddawn i lu o gymdeithasau a mudiadau dros y blynyddoedd. Arwain noson, darlith i gymdeithas leol, arwain ffug eisteddfod – roedd pobl ar ofyn Lyn yn aml am ei fod yn berfformiwr mor ddawnus a gwreiddiol. Mae hyn yn dangos hefyd pa mor barod oedd Lyn i helpu eraill: anaml iawn y byddai o’n gwrthod cais i helpu cymdeithas neu fudiad. Oedd roedd o’n mwynhau gwneud, ond roedd o’n golygu cryn lafur iddo, achos roedd o wastad yn paratoi’n drwyadl ar gyfer pob dim. Ac roedd Lyn yn ddyn pobl. Roedd ganddo ddawn naturiol i ymwneud gyda phobl o bob math, o’r hyna i’r fenga, beth bynnag eu hiaith, beth bynnag eu daliadau. Welais i erioed neb efo personoliaeth mwy enillgar nag oedd gan Lyn. Ond nid dyn cyhoeddus yn unig oedd Lyn. Yn ei waith bob dydd, yn ei waith fel swyddog undeb, yn ei waith yn yr Eglwys, fe wnaeth Lyn lu o gymwynasau tawel ag unigolion. Roedd o’n wrandawr sensitif ac yn ddoeth ei gyngor.

Yn drydydd, Lyn a chrefydd. Yn mis Medi 1971, roedd yna athrawes ifanc yn Ysgol y Preseli, un o’r gogledd. Mae hi’n cofio y Lyn ifanc yn cyrraedd yr ysgol ar ei ddiwrnod cyntaf a hithau’n gofyn beth oedd o isio fod: ‘Miss’, meddai,’wy’n moyn bod yn weinidog Baptist.’ Ateb pendant, nodweddiadol ohono. Wel ddaeth o ddim yn weinidog Baptist, ond fe ddaeth yn weinidog. Fel y dywedais roedd o wedi’i fagu ym Methel, Mynachlog-ddu. Yn ei ail flwyddyn yn Aber, rwy’n credu iddo gael profiad crefyddol dwfn, ac fe ddyfnhaodd ei ffydd. Wedyn dychwelyd adref a ffeindio nad oedd yn cael blas bellach ar wasanaethau arferol ei fagwraeth, a chwilio am gartref ysbrydol newydd. Yn ôl a ddywedodd wrtha i, pan oedd o ym Morgannwg y dechreuodd o fynd i’r eglwys. Yn sicr, pan gyrhaeddodd o Aber am y trydydd tro yn 1989, roedd o’n mynd i’r eglwys. Fe ddyfnhaodd ei ffydd gyda’r blynyddoedd, ac fe fu’n weithgar iawn yn Eglwys y Santes Fair. Fe ddaeth yn darllenydd lleyg, ac wedyn wedi gadael y Llyfrgell, dod am y saith mlynedd olaf hyn yn weinidog yn y cylch hwn. A gweinidog oedd ei hoff disgrifiad ef o’i swydd. Bellach roedd o’n gallu cysegru ei holl ddoniau, ei allu, ei ddawn berfformio a’i ddawn i ymwneud â phobl, i wasanaeth ei Arglwydd. Fe fydd colled enbyd ar ei ôl yn yr ardaloedd hyn yn enwedig ym Mhenrhyn-coch a Bont-goch. Roedd o’n gymeradwy gan bawb ac yn llwyddo i dynnu pobl at ei gilydd. Roedd plant Ysgol Penrhyn-coch yn gwirioni arno. A braf meddwl amdano yn annog cydweithio rhwng Eglwys St Ioan a Horeb y Bedyddwyr, gan uno dau ben ei fywyd ar un ystyr.

Wrth feddwl beth i’w roi ar glawr taflen yr angladd, fe gofiais am adnod a ddysgais yn blentyn, adnod o ddameg y talentau, ac rwy’n meddwl ei bod yn gwbl addas ar gyfer Lyn. Y cyfieithiad newydd sydd ar y daflen, ond fel hyn y dysgais i hi: ‘Da was, da a ffyddlon; buost ffyddlon ar ychydig, mi a’th roddaf ar lawer. Dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd.’

Diolch yn fawr. Richard Owen

Y Parchedig Lyn Lewis Dafis

Roedd yn sioc enfawr i ni i gyd i glywed am farwolaeth y Parchedig Lyn Léwis Dafis ar 15fed o Fawrth 2022. Estynnir ein cydymdeimladau i’w chwaer, Mandy, a’i frawd, Robat, a’r holl deulu yn Sir Benfro.

Roedd Lyn yn ffrind da a chydweithiwr ymroddgar i fi ac i’r holl Dîm Gweinidogaethu ym Mro Padarn, ac fe welwn ei eisiau yn arw. Roedd hiwmor cyfoeth a chwareus ganddo ond roedd e’n siarad o ddifri pan oedd yr achlysur yn ei angen.
Trwy waith Lyn sefydlwyd Llan Llanast ym Mhenrhyn-coch, a dechreuodd yr Eglwys i gydweithio yn agosach â’r Capel (Horeb) yn y pentref, yn arbennig gyda Llan Llanast a’r Ysgolion Sul. Roedden ni i gyd yn ddiolchgar i ddoniau Lyn wrth iddo greu gwasanaethau trwy
gyfrwng Zoom, gyda hyder, yn ystod misoedd gwaethaf y pandemig. Yn yr un ffordd fe gynorthwyodd bob Eglwys yn yr ardal i reoli eu tudalennau Facebook.
Roedd Lyn yn gyfaill i lawer o bobl, yn yr Eglwysi a Chapel a thu hwnt – gan gynnwys nifer o bobl sy’n byw’n dramor. Roedd ieithoedd i gyd, ac nid Cymraeg yn unig, o ddiddordeb ganddo ac roedd wedi bod yn dysgu Rwmaneg yn ddiweddar.
Bydd lawer o bobl ym Mro Padarn yn cofio Lyn trwy ei wasanaethau mewn Eglwysi ac ar-lein, trwy ei grwpiau astudio a’i ymweliadau pan oedd ei iechyd yn well, a thrwy ei ofal mewn amserau gofidus neu hapus.
Fel pob gweinidog, nid un heb ei ffaeleddau oedd Lyn, ond mae cymaint o bethau da a chalonogol i’w trysori oherwydd ei bresenoldeb yn ein plith.

Diolch a fo i Dduw; boed iddo orffwys mewn heddwch.

Andrew Loat

 

GWASANAETHAU’R SUL

Bydd holl wasanaethau’r Sul yn adeilad yr eglwys yn dechrau am 10.00am. Ceir manylion am y gwasanaethau ar y ddalen  Dyddiadur.

TRWYDDEDU’R PARCHEDIG LYN DAFIS FEL GWEINIDOG CYSWLLT 26.7-2021

Trwyddedu Bro Padarn 26/7/2021
Y Canon Andrew Loat, Cofrestrydd Arwel Davies, yr Archddiacon Eileen Davies, y Parchedig Lyn Dafis

Mewn gwasanaeth nos Lun 26 Gorffennaf yn Eglwys Llanbadarn Fawr trwyddedwyd y Parch Lyn Lewis Dafis yn Swyddog y Gymraeg a Dwyieithrwydd yr Esgobaeth ac yn offeiriad â gofal ym Mro Padarn.

Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Canon Andrew Loat, Deon Bro Padarn. Yn absenoldeb yr Esgob Joanna, yr Hybarch Eileen Davies, Archddiacon Ceredigion oedd yn trwyddedu gyda chymorth Cofrestrydd yr Esgobaeth, Mr Arwel Davies. Oherwydd bod y sefyllfa gyda Covid-19 yn parhau yn ansicr dim ond cynulleidfa fechan oedd yn medru bod yn bresennol, ond roedd yn cynnwys aelodau o bob un o gynulleidfaoedd eglwysi’r Ardal Weinidogaeth Leol. Roedd nifer ohonynt yn cymryd rhan a diolch iddynt am wneud.

Ym Mro Padarn bydd Lyn yn gweithio fel Gweinidog Cyswllt rhan amser gan weithio gweddill ei amser yn y swydd gyda’r Esgobaeth.

Yn yr Ardal Weinidogaeth Leol bydd yn cynnal gwasanaethau o Sul i Sul yn y gwahanol eglwysi ac ar-lein. Bydd hefyd yn trefnu presenoldeb yr eglwysi ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn cynorthwyo aelodau o’r gwahanol gynulleidfaoedd ennill hyder yn eu defnyddio drostynt eu hunain. Yn y tymor byr bydd yn parhau i olygu a chynhyrchu ‘r cylchlythyr. Bydd hefyd yn aelod o’r tîm sydd â gofal bugeilio dros gynulleidfaoedd Eglwys S Ioan, Penrhyn-coch ac Eglwys S Pedr, Elerch.

Siop yr Eglwys yn cau

Mae Siop Eglwys Llanbadarn a agorodd ar ddiwrnod olaf Mehefin 2009 bellach wedi cau.

Mae’r Canon Andrew Loat yn ysgrifennu fel hyn:

Bydd ymwelwyr ag Eglwys Llanbadarn yn ogystal ag addolwyr rheolaidd yma yn ymwybodol o’r gwaith gwych a wneir gan ein byddin o wirfoddolwyr nid yn unig wrth gadw’r Eglwys yn lân ac yn daclus, ond hefyd wrth ddarparu eitemau o ddiddordeb i’w gwerthu ym mhen gorllewinol corff yr eglwys. Fel gyda chymaint o bethau eraill, mae’r cyfnodau clo yn olynol yn ystod y misoedd diwethaf wedi rhoi cyfle inni ailasesu’r hyn a wnawn, ac mae Cherry a Pip wedi penderfynu rhoi’r gorau i redeg siop yr Eglwys. Rydym yn ddiolchgar iddynt ac i bawb sydd wedi eu helpu yn y project hwn sydd wedi para am flynyddoedd – roedd wedi hen ennill ei blwyf pan gyrhaeddais fel offeiriad plwyf newydd saith mlynedd yn ôl! Dros y blynyddoedd mae’r siop wedi gallu cyfrannu symiau sylweddol i Eglwys Llanbadarn i gynorthwyo gyda’n costau rhedeg. Diolchwn iddynt i gyd.

Gwefan Mynwent Eglwys Llanbadarn

Fe’n hysbyswyd bod y wefan flaenorol a oedd wedi bod ar waith ers cryn amser cyn ei thynnu i lawr bellach wedi’i hail-sefydlu. Nid Gwefan Eglwys Sant Padarn mo hon. Fodd bynnag, rydym yn falch o allu rhoi gwybod ichi sut i fynd i mewn i’r wefan hon os dymunwch. Gallwch fynd i mewn i’r wefan trwy’r cyswllt hwn:

www.llanbadarnchurchyard.org.uk

Y Parchg Alun Evans – Offeiriad â gofal AWL Bro Padarn

Bydd y Parchedig Alun Evans yn gadael AWL Bro Padarn wrth iddo symud i swydd newydd cyn y Nadolig. Mae wedi cael ei benodi yn Offeiriad â gofal yn AWL Bro Wyre sy’n cynnwys hen blwyfi Llanrhystud a Llanilar.  Bu Alun yn gyfaill da ac yn gydweithiwr ardderchog gyda ni ym Mro Padarn a dymuwn bob bendith arno, a hefyd ar Becky, ar y cam newydd hwn. Bydd Becky yn parhau ei hyfforddiant yn AWL Aberystwyth a bydd y ddau ohonynt yn symud i fyw i’r Ficerdy yn Llanilar.

Sul olaf y Barchg Becky Evans fel Curad Cynorthwyol 30 Awst 2020

Heddiw yw Sul olaf y Barchedig Becky Evans yn AWL Bro Padarn fel Curad Cynorthwyol, wrth iddi symud at ein cymdogion, sef Ardal Weinidogaethol Leol Aberystwyth er mwyn cwblhau ei hyfforddiant o’r 1af o Fedi. Roeddwn i’n falch iawn o gael cwmni Becky yn ystod blwyddyn gyntaf ei gweinidogaeth wedi’i hordeinio. Diolchwn iddi hi am yr holl ffyrdd y mae hi wedi cyfrannu a fywyd a chenadaeth ein Heglwysi. Pob bendith arnat ti, Becky.

CYHOEDDI GWEFAN NEWYDD ESGOBAETH TYDDEWI 30.04.2020.

Gallwch gael mynediad i wefan newydd o’r cyswllt sydd ar waelod tudalen gatref y wefan hon.

Y Parchg Alun Evans – Offeiriad â gofal
Caplan – Sgwadron 561 (Ardwyn, Aberystwyth a’r Cyffiniau) RAFAC

Ddydd Mercher 5 Chwefror 2020 yn ystod noson wobrywo Cadetiaid Awyr y Llu Awyr Brenhinol, sefydlwyd y Parchg Alun Evans, offeiriad â gofal yn Ardal Weinidogaeth Leol Bro Padrn, fel Caplan y Corfflu Hyfforddi Awyr (ATC) lleol ac fe gyflwynwyd iddo Dystysgrif Apwyntiad a Bathodyn y Swydd. Golyga hyn y bydd Alun ar gael i gynnig cefnogaeth fugeiliol, moesol ac ysbrydol i bawb sydd yn rhan o fywyd y Sgwadron. Bydd yn derbyn rheng fygedol Is-gapten Awyr

Pantomeim yn Theatr y Werin – Prifysgol Aberystwyth

Nos Iau, 23 Ionawr 2020, aeth nifer o’r plwyfolion o’r cynulleidfaoedd Cymraeg a Saesneg i weld y pantomeim ‘Peter Pan’. Cafwyd noson hwyliog iawn gyda digonedd o chwerthin. Trefnwyd y cyfan fel arfer gan yr Hybarch Hywel Jones ac mae’n diolch yn fawr iddo am ei ymdrechion. Da oedd gweld dau o’r aelodau – Ioan Guile a Julie McNichols Vale – yn cymryd rhannau blaenllaw yn y sioe.

Ymgyrch codi arian Y Flwyddyn Newydd

Ein hymgyrch codi arian yw ‘Cystadleuaeth y Dyddiad Lwcus’.

Rydym yn gobeithio gwerthu 366 o ddyddiadau am £1. Cadwch lygaid am y ‘Dyddiadur Lwcus’ gan aelodau’r pwyllgor codi arian. Diolch am eich cefnogaeth barhaus. Manylion i ddilyn.

Bore Coffi 23 Tachwedd 2019

Cafwyd Bore Coffi braf yn Neuadd yr Eglwys ddydd Sadwrn 23 Tachwedd am 10.30-12.00.  Roedd y bore yn llwyddiant oherwydd gwaith caled aelodau’r Pwyllgor lletygarwch a chodi arian. Diddanwyd y dorf gan ganu swynol plant Ysgol Gynradd Gatholig Padarn Sant. Diolchwyd i bawb a gyfranodd tuag at lwyddiant y digwyddiad gan y ficer, y Parchg Ganon Andrew Loat.

Gwasanaeth Coffa Undebol

Cynhaliwyd gwasanaeth coffa undebol dwyieithog ddydd Sul 10 Tachwedd 2019 am 10.00am yn Eglwys Llanbadarn. Yr oedd yn gyfle i gofio pawb a gollodd eu bywydau mewn dau ryfel byd ac mewn rhyfeloedd yn dilyn hynny ac i weddïo am heddwch yn ein byd heddiw. Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Parchg Ganon Andrew Loat gyda Mr Ian Rees yn canu’r organ. Darllenwyd y rhestr anrhydedd gydag enwau 39 o ddynion a gollodd eu bywydau yn Rhyfel Byd 1 a 6 dyn a gollodd eu bywydau yn Rhyfel Byd 2 gan y Cynghorydd Linda Keeler ar ran Cyngor Cymuned Llanbadarn Fawr. Cyn y gwasanaeth cafodd y clychau eu canu gan y tîm clochyddion. Yn dilyn y Bregeth gan y Canon Loat ac ennyd o  fyfyrdod i sain tawel yr organ, fe gerddodd y gynulleidfa at y Gofeb y Pentref tu ôl i’r Groes Orymdeithiol, y Ficer a’r Côr. Ar ôl gweddïau canwyd y Last Post ar y trwmped gan Aidan Hassan, a chadwyd dwy funud o dawelwch. Yna canwyd y Reveille, gosodwyd y torchau coffa, ac adroddwyd coffâd Kohima a Gweddi S. Ffransis. Daeth y gwasanaeth i ben wrth i’r Canon Loat gyheddi’r fendith.

Cafwyd te a choffi yn Neuadd yr Eglwys wedi’u trefnu gan y Pwyllogr Cymdeithasol ar ôl y gweithgareddau.

Gŵyl Diolchgarwch am y Cynhaeaf 13 Hydref 2019

Cynhaliwyd prif wasanaeth Gŵyl Diolchgrwch am y Cynhaeaf yn Eglwys Llanbadarn am 11.30am fore Sul ar ffurf gwasanaeth y Cymun Bendigaid ar Gân. Y llywydd yn y gwasanaeth oedd ein hoffeiriad plwyf a deon yr AWL, y Parchg Ganon Andrew Loat. Arweiniwyd canu’r emynau Cymraeg a Saesneg y gwasanaeth hwyliog hwn gan y Côr gyda William Davies yn canu’r organ. Ar ôl y gwasanaeth roedd croeso i bawb rannu cinio yn Neuadd yr Eglwys. Diolchodd y Ficer yn gynnes i bawb oedd wedi darparu bwyd a’i weini ac i bawb arall a weithiodd i wneud y cyfan yn llwyddiant.

Y Parchg Ganon Andrew Loat

Yn ddiweddar apwyntiodd yr Esgob Joanna dri chanon newydd i Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Yn eu plith yr oedd Andrew Loat, Deon Ardal Weinidogaeth Leol Bro Padarn. Yr ydym yn llongyfarch Andrew yn wresog ar ei apwyntiad i sedd Caerfai yn yr Eglwys Gadeiriol. (Cyn hyn yr oedd Andrew yn Ganon yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu).

Gosodwyd y tri chanon newydd yn ystod gwasanaeth yr Hwyrol Weddi yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi ddydd Iau 3 Hydref 2019.

Canoniaid newydd = New canons

Ardal Weinidogaeth Leol Bro Padarn: denoiaeth a bywoliaeth unedig 26 Medi 2019

Ddydd Iau, 26 Medi 2019 am 7.00pm yn Eglwys Llanbadarn Fawr, mewn gwasanaeth dwyieithog o’r Hwyrol Weddi ar Gân , sefydlwyd Ardal Weinidogaeth Leol ddiwygedig, Deoniaeth a Bywoliaeth Unedig Bro Padarn. Mae’r ardal weiniodgaeth yn cynnwys y cyn-blwyfi canlynol: Llanbadarn Fawr, Elerch, Capel Bangor, Penrhyn-coch, Llanfihangel Genau’r Glyn, Llangorwen, Eglwys-fach, Llangynfelyn, Borth, Llanfihangel y Creuddyn, Llanafan, Llantrisant, Ysbyty Cynfyn, Ysbyty Ystwyth ac Eglwys Newydd (Hafod). Roedd aelodau o’r 15 eglwys yr Ardal Weinidogaeth Leol newydd yn bresennol. Wardeniaid yr Ardal Weinidogaeth newydd yw’r Cyng. Ray Quant (oedd yn absennol ar y noson ac fe gywerwyd ei le gan Mr John Peel) a Mrs Jenny Greaves.

Ar ddechrau’r gwasanaeth gorymdeithiodd y  Côr a’r Tîm Gweinidogaeth i mewn y tu ôl i’r Groes a gariwyd gan William Davies. Yr organydd oedd Mr Ian Rees ac arweiniwyd y Côr gan y Côrfeistr dros-dro, Keith Jones.

Trwyddedwyd aelodau ordeiniedig y Tîm Gweinidogaeth gan yr Esgob Joanna ac ychwanegodd bod trwyddedau’r Darllenwyr i’r esgobaeth gyfan yn aros fel yr oeddent. Yna sefydlwyd y Canon Andrew Loat yn Ddeon yr Ardal Weinidogaeth Leol gan yr Archddiacon Eileen Davies. Yn ogystal â Deon yr Ardal Weinidogaeth trwyddedwyd y clerigwyr cyflogedig canlynol: y Parchgn. Lyn Dafis, Alun Evans a Rebecca Evans; y clerigwyr di-dâl y Parchgn. Heather Evans, Ingrid Rose a Robin Morris; a’r Canon Enid Morgan fel Clerig wedi ymddeolsy’n parhau i wasanaethu. Hefyd fe drwyddedwyd Mr Syd Smith fel Arweinydd Addoliad. Yr oedd yr Hybarch Hywel Jones a’r Canon Stuart Bell, Clerigwyr wedi ymddeol, yn methu â bod yn bresennol. Yr oedd y Darllenwyr trwyddedig canlynol yn bresennol hefyd, sef y Mri. Keith Jones, David Poole, Nigel Hardy a David Lucas. Gweithredodd David Lucas fel Caplan yr Esgob  ar y noson ar y cyd gyda’r Barchg Caroline Mansell. Nid oedd hi’n bosib i Mrs Carolau Mercer, Darllenydd Trwyddedig, i fod yn bresennol chwaith.

Yn ei hanerchiad esboniodd yr Esgob Joanna y rhesymau dros y ffurf ddiwygedig ar yr Ardal Weinidogaeth. Gwnaethn yn glir, wrth wynebu’r dyfodol, mai dim ond nifer benodol o glerigion cyflogedig yr oedd hi’n bosib i’r esgobaeth eu cyflogi. Nododd mai’r ffordd orau o sicrhau parhâd y weinidogaeth oedd sefydlu timoedd mewn Ardaloedd Gweinidogaeth Lleol gyda nifer gyfyngedig o Glerigwyr cyflogedig yn cyd-weithio gyda Chlerigwyr di-dâl, Darllenwyr Trwyddedig ac Arweinwyr Addoliad.

Yn dilyn y Fendith ar ddiwedd y gwasanaeth arweiniodd y Côr y Tîm Gweinidogaethol mewn gorymdaith i gefn yr eglwys. Cafwyd lluniaeth i ddilyn yn Neuadd yr Eglwys.

Diolch yn fawr iawn i bawb a wnaeth weithio’n galed i sicrhau bod y noson hon yn un braf.

(Mae’r Ardal Weinidogaeth Leol ddiwygedig hon yn disodli yr Ardal Weinidoageth flaenorol a sefydlwyd gan yr Esgon Wyn yn 2016.)

Datganiad ar yr organ yn Eglwys Llanbadarn, 31 Awst 2019

Daeth nifer dda o bobl ynghyd ar gyfer Datganiad ar yr organ a gynhaliwyd yn Eglwys Llanbadarn Fawr. Fe gymerodd tri organydd ran yn y Datganiad  – gyda’r tri ohohyn nhw  yn canu’r organ yn rheolaidd yng ngwasanaethau bore yn yr eglwys – gan gyflwyno amrywiaeth eang o weithiau. Y cyntaf ar yr organ oedd Euryn Jones, gyda Daniel Smith yn ei ddilyn, ac yna Ian Rees.

Tystiodd y gymeradwyaeth wresog ar ddiwedd y Datganiad i werthfawrogiad y gynulleidfa o brynhawn hyfryd o gerddoriaeth organ er mwyn codi arian i goffrau’r eglwys. (Yr oedd disgwyl i bedwerydd organydd fod yno hefyd, ond nid oedd hi’n bosib i William Davies fod yn bresennol y tro hwn.)

Y dilyn y Datganiad cafwyd lluniaeth ysgafn yn Neuadd yr Eglwys.

Diolch yn fawr i’r organyddion a phawb arall a gyfranodd at lwyddiant yn digwyddiad.

Datganiad ar yr organ / Organ recital 31-08-2019

Y Parchg Andrew Loat yn cael ei dderbyn i’r Orsedd

Ddydd Llun, 5 Awst 2019, derbyniwyd y Parchg Andrew Loat yn aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Conwy, Llanrwst. Daw Andrew yn aelod o’r Orsedd trwy arholiad. Llongyfarchiadau mawr iddo ar ei waith caled a’i lwyddiant. Ei enw yng ngorsedd fydd Casgob. (Llun: Richard Owen)

Y Parchg Andrew Loat yn cael ei dderbyn i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 5 Awst 2019

Ordeinio

Ddydd Sadwrn, 29 Mehefin 2019, Gŵyl S. Pedr, Apostol a Merthyr, gwnaed Rebecca Evans yn Ddiacon gan yr Esgob Joanna yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Bydd yn gwasanaethu yng ngrŵp plwyfi Llanbadarn Fawr ac Elerch a Phenrhyn-coch a Chapel Bangor ac ardal weiniodgaeth leol Bro Padarn. Gweddïwch dros Becky wrth iddi ddechrau yn y weinidogaeth ordeiniedig. Croesawyd Becky i’w gweinidogaeth newydd yn Eglwys Llanbadarn gan y Canon Andrew Loat, Offeiriad â gofal, yn y gwasanaethau ddydd Sul 30 Mehefin 2019 – Cymun Cymraeg am 10 a.m. a Chymun Saesneg ar Gân 11.15 a.m. – lle bu Becky yn cynorthwyo.

Te Mefus – Dydd Sadwrn 22 Mehefin 2019

Cynhaliwyd Te Mefus ardderchog yn Neuadd yr Eglwys ddydd Sadwrn, 22 Mehefin er mwyn codi arian i’r Eglwys.

Diolchodd y Ficer i bawb oedd wedi cynorthwyo. Roedd angen gwaith caled i sicrhau llwyddiant. Bu rhai wrthi’n gosod y neuadd yn barod, dod â bwyd a’i baratoi, eraill yn gweini, ac yn glanhau a golchi. Rhoddodd pobl eraill wobrwyon ar gyfer y raffl, ac roedd ‘na unigolion eraill wedi paratoi deunydd ar gyfer y stondinau amrywiol a gweithio arnynt, casglu arian a gwerthu’r tocynnau raffl.

Ffrwyth gwaith gwirfoddol gan dyrfa o bobl yn cynorthwyo a sicrhaodd lwyddiant y fenter hon i godi arian ar gyfer Eglwys Llanbadarn.

Yr oedd hi’n arbennig o dda i weld arddangosfa o’r lluniau o Gystadleuaeth Arlunio y Llawr Mosaig yn ystod y Te Mefus.

Gŵyl Padarn Sant – Brodyr a chwiorydd Catholig Rufeinig.

Dathlwyd Offeren Gymraeg yn Eglwys Llanbadarn ddydd Sadwrn, 27 Ebrill 2019, i nodi Dydd Gŵyl Padarn Sant ar 15 Ebrill a oedd yn syrthio yn ystod tymor y Garawys eleni. Trefnwyd y gwasanaeth gan Y Cylch Catholig a Gweithgor Padarn Sant. Dechreuodd y gwasanaeth, a oedd yn wasanaeth ar gân am 3.00pm, gyda’r Tad Allan Jones yn llywyddu a phregethu a Mr Peter Leggett wrth yr organ. Yn ogystal â nifer dda o Gatholigion Rhufeinig roedd ambell i Eglwyswr ac Eglwyswraig yn bresennol i fwynhau’r gymdeithas a’r canu ardderchog.

Darparwyd lluniaeth yn nhafarn y Black Lion yn dilyn y gwasanaeth.

 

ADFER Y LLAWR MOSÄIG – Ebrill 2019

Mae adeilad presennol eglwys Llanbadarn yn dyddio o’r canol oesoedd ac fe’i cofrestrir gan CADW fel adeilad ‘Gradd I rhestredig’ oherwydd ei arwyddocâd crefyddol a hanesyddol yn y rhan hon o orllewin Cymru. Roedd tref Aberystwyth, a sefydlwyd fel bwrdeistref gan Edward I yn 1277, yn rhan o blwyf helaeth Llanbadarn Fawr tan y 1870au. Adeiladwyd yr eglwys garreg ar ôl y Goresgyniad Normanaidd a chyn 1246, ond mae wedi newid yn sylweddol dros amser. Arweiniodd ffawtiau difrifol yn y to a rhai waliau ategol at adnewyddu mawr rhwng diwedd yr 1860au a’r 1880au. Cynlluniwyd a rheolwyd y gwaith adfer hwn gan John Pollard Seddon, FRIBA, pensaer Fictoraidd o bwys gyda’i swyddfeydd yn Llundain ac a oedd yn arbenigo mewn trin eglwysi Gothig. Golygai cynlluniau Seddon ar gyfer y tu mewn i Eglwys Llanbadarn nodweddion a dodrefn Gothig trawiadol sy’n dal i fod mewn cyflwr da hyd heddiw.

Cyflogwyd Jesse Rust o Battersea, Llundain i ddylunio’r llawr ar sail ei waith blaenorol. Yr oedd yn lluniwr mosaigau adnabyddus, gan gynnwys mewn adeiladau cyhoeddus yn Llundain a Manceinion. Mae’r llawr mosäig a gynlluniwyd gan Rust wedi’i batrymu’n hyfryd mewn teils gwydr neu tesserae bychain o 12.7mm (½ modfedd) sy’n fframio teils llosgliw wedi’u gosod yn rheolaidd yn darlunio pynciau crefyddol yn bennaf.

Mae’r llawr mosäig yn gorwedd yn union ar y Groesfa o dan y tŵr, gan ymestyn i’r ochr i mewn i dranseptau’r de a’r gogledd ac ymlaen at ris farmor y Gangell. Defnyddiodd Rust wydr lliw wedi’i ailgylchu a phigmentau cerameg i wneud amrywiaeth o deils a tesserae, a oedd yn creu lliwiau byw a deniadol drwyddi draw. Mae’n debyg bod y llawr hwn yn anarferol, oherwydd y gymysgedd o deils llosgliw sy’n dwyn delweddau o fewn amgylchyn o fosäig gwydr.

Credir bod y llawr wedi cymryd peth amser i’w gwblhau oherwydd patrymau cymhleth y tesserae ond daeth y gwaith i ben tua diwedd yr 1870au. Ers ei adeiladu mae wedi goroesi’r holl gerdded ar ei draws yn dda, er bod peth gwisgo a baw wedi dod dros y blynyddoedd hynny. Symudwyd hefyd nifer o wrthrychau trymion, rhai ohonynt yn drwm iawn, dros y llawr mosäig ar hyd y blynyddoedd gan adael eu hôl, ac roedd hyn wedi achosi lliwiau’r teils i bylu. Hefyd, mae’n debyg bod y gwrthrychau trymion a lusgwyd drosto ac a adawyd arno, wedi disodli darnau o’r tesserae bychain ac, mewn rhai mannau gadael nifer o dyllau ar wyneb y llawr. Gosodwyd carped trwchus ar y llwybr o ben gorllewinol corff yr eglwys, hyd at y brif allor uchel, ac yn ddiamau fe wnaeth hyn helpu i leihau difrod pellach.

Bu’r carped hwn yn ei le tan 2014, pan gafodd tu mewn yr eglwys ei adfer. Bryd hynny cafodd waliau mewnol yr eglwys eu hatgyweirio, eu hail-blastro a’u peintio, a gosodwyd system gwres canolog nwy newydd. Tynnwyd y carped o’r corff a rhan o’r gangell gan ddangos y llawr mosaig i bawb ei weld. Holodd y Parchedig Ganon Andrew Loat, Offeiriad â Gofal Eglwys Padarn Sant i’r Cyngor Plwyf Eglwysig gefnogi atgyweirio ac adnewyddu’r llawr mosäig, a chymeradwywyd hyn ym mis Medi 2015. Derbyniwyd rhwyddeb gan yr esgobaeth, a gwnaethpwyd cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri ym mis Rhagfyr 2017. Dyfarnwyd y cais i’r gwaith gael ei wneud ym mis Ebrill 2018.

Enillwyd y contract o wneud y gwaith i gwmni o gontractwyr mosäig arbenigol, The Mosaic Restoration Company o Daventry, Northhampton, a dechreuwyd ar y gwaith fis Ebrill 2019 gan wneud gwaith adfer ac atgyweirio llawn.

Bellach mae’r gwaith adfer ac atgyweirio wedi trawsnewid yn llwyr yr hyn a oedd yn ardal dywyll ac wedi’i difrodi yn ôl i gyflwr sydd mor agos â phosibl i’r adeg yr adeiladu yn y 1870au. Mae’r lliwiau dwfn a llachar bellach wedi dychwelyd i’r mosaig ac mae’r arwyneb yn wastad ac yn ddiogel. Mae’n ffurfio rhan ganolog a deniadol i adeilad yr eglwys i bobl ei fwynhau am flynyddoedd i ddod.

Fel plwyf, rydym yn ddiolchgar iawn i Mr Brian Wiley am ei holl waith caled a’i ymroddiad i sicrhau’r adnoddau angenrheidiol ar gyfer y gwaith hwn. Diolch yn fawr, Brian.

FAITH PICTURES

FFORDD NEWYDD I SIARAD AM BETHAU PWYSIG.

Cwrs hwyliog yn para chwe wythnos yw Faith Pictures i’n helpu i siarad yn naturiol am ein ffydd Gristnogol gyda phobl eraill.

Cynhelir y cwrs yn Saesneg ar ddydd Mawrth yn Neuadd yr Eglwys, Llanbadarn rhwng 10.45 a 12.00 ar y dyddiadau canlynol: 12.19 a 26 Mawrth aa 2. 9 a 16Ebrill 2019. Arweinir y cwrs gan y Parchg Alun Evans.

CWRS Y BEIBL – DYSGWCH AM Y STORI FAWR.

YN: Y Ficerdy, Penrhyn-coch. Dydd Mercher 2.30 pm.                                                                                  13, 20, 27, Mawrth. 03, 10 Ebrill 2019.

Os ydych chi am ddysgu rhagor am y Beibl yna bydd The Bible Course yn berffaith i chi. Mae’n dangos sut mae’r llyfrau allweddol, cymeriadau enwog a digwyddiadau rhyfeddol yn adrodd un stori fawr, o lyfr Genesis hyd at y Datguddiad. Mae’r cwrs hefyd yn darparu’r offer a’r sgiliau i’n cynorthwyo i ddarllen y Beibl mewn ffordd sy’n berthnasol i’n bywyd o ddydd i ddydd. Bydd y cwrs yn Saesneg.

Am ragor o wybodaeth
ac i gadw eich lle, cysylltwch â:

Y Parchg Lyn Lewis Dafis (01970) 820162. lyndafis@gmail.com                                              Ewch i biblesociety.org.uk/thebiblecourse i ddysgu rhagor

PICNIC SGÏO Y TEDIS.

Cafodd hen ac ifanc fel ei gilydd amser da yn Neuadd yr Eglwys, Llanbadarn ddydd Sadwrn, 23 Chwefror 2019 wrth i dedi bêrs a’u perchnogion “sgïo” ar y sleid a mwynhau caneuon, bwyd, swigod a gweddïau. Bydd y digwyddiad nesaf o’r fath adeg y Pasg.

 

Noson Darganfod y Llofrudd

Cafwyd noson gymdeithasol braf iawn yn Neuadd yr Eglwys nos Sadwrn Chwefror 16. Syniad Meurig ac Anna Lewis oedd y Noson Dargafod y Llofrudd er mwyn codi arian ar gyfer yr eglwys. Roedd ôl llawer o waith ar y noson ardderchog hon a da oedd gweld cynifer yn bresennol.

Roedd yr holl actorion gwych a oedd yn rhan o’r perfformiad yn lleol gyda chysylltiadau â’r Eglwys. Wedi’r olygfa gyntaf cafwyd pryd oer blasus a baratowyd gan wirfoddolwyr lleol. Wedi’r ail olygfa roedd hi’n amser am bwdin. Ac wedi’r pwdin cafwyd yr olygfa olaf pan ddatguddiwyd y gwirionedd am y llofrudd. Ar ddiwedd y noson rhannwyd gwobrwyon y raffl.

Diolchodd y Ficer o waelod calon i bawb oedd wedi bod yn rhan o lwyddiant y noson: yr actorion; y sawl wnaeth osod y neuadd; pawb oedd wedi dod a pharatoi’r bwyd, ei weini, a golchi’r llestri wedyn; y sawl oedd wedi gwerthu a phrynu tocynnau; a phawb oedd wedi benthyca eitemau o bob math i’w defnyddio.

Da oedd gweld cymaint o wirfoddolwyr yn cyd-weithio er mwyn codi arian tuag at Eglwys Llanbadarn.

Y Parchg Lynn Rees (Curad Di-dâl)

Y Parchg Lynn Rees oedd y llywydd a’r pregethwr yng ngwasanaeth y Cymun Bendigaid ar Gân yn Eglwys Llanbadarn am 11.15am ar bedwerydd Sul yr Adfent 2018. Yn ystod y gwasanaeth fe ddywedodd wrth y gynulleidfa mai hwnnw fuasai ei wasanaeth olaf gyda ni am fod yr Esgob wedi’i benodi i swydd newydd fel Curad â thâl ym mhlwyf Betws, Dewi Sant gyda Rhydaman o ddechrau 2019. Diolchodd Lynn i bawb am bob caredigrwydd a chefnogaeth yn ystod ei gyfnod yn Llanbadarn. Diolchodd Keith Jones, Darllenydd Trwyddedig, i Lynn am ei holl waith yn y Plwyf, y Grŵp a’r Ardal Weinidogaeth gan ddymuno pob bendith iddo yn ei weinidogaeth newydd.

Y Gwasanaeth Naw Llith a Charol Blynyddol – 2018

Cynhaliwyd y Gwasanaeth Naw Llith a Charol Blynyddol a arweinir Côr ar drydydd Sul yr Adfent, dydd Sul 16 Rhagfyr 2018 am 11.15am. Llywyddwyd yn y gwasanaeth gan y Parchg Ganon Andrew Loat. Ar ddechrau’r gwasanaeth, gorymdeithiodd y Côr yn dilyn y Groes yn ystod canu’r emyn “O Come, O Come Emmanuel.” Ymunodd y gynulleidfa i ganu’r carolau gyda’r Côr. Ond fe ganodd y côr yr Ave Maria gan Jacob Arcadelt (1505-1568) o drefniant Alan Ridout ar eu pennau eu hunain yn hyfryd. Rhwng y canu cafwyd darlleniadau o’r Ysgrythur gan aelodau o’r Côr a’r gynulleidfa. Canwyd “O Come all ye Faithful” gyda desgant i gau’r gwasanaeth cyn i’r Ficer gyhoeddi’r Fendith. Mr Ian Rees oedd yn canu’r Organ ac arweiniwyd y Côr gan y Côr feistr dros-dro, Keith Jones.

11 Tachwedd 2018 – Gwasanaeth Cofio Undebol 100 mlynedd

Cynhaliwyd Gwasanaeth Cofio Undebol union gan mlynedd wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn Eglwys Llanbadarn i gofio’r sawl a fu farw mewn dau ryfel byd, mewn rhyfeoedd eraill, ac i weddïo dros heddwch yn ein byd heddiw. Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Parchg Ganon Andrew Loat, offeiriad â gofal, gyda chymorth y Parchg Lynn Rees. Canwyd yr organ gan Mr Ian Rees. Darllenwyd y rhestr anrhydedd gan y Cynghorydd Duncan Tibbit ar ran Cyngor Cymuned y Faenor. Cyn y gwasanaeth canwyd y clychau gan y tîm clychau. Yn dilyn y Fendith gan y Canon Loat, cerddodd y gynulleidfa i’r gofeb rhyfel yng nghanol y pentref o dan arweiniad y clerigion a’r côr. Yn dilyn gweddïau a chanu’r Safle Olaf ar y trwmped gan Aidan Hassan cadwyd dwy funud o ddistawrwydd. Wedi’r Rifali gosodwyd torchau wrth y gofeb, a dywedwyd Beddargraff Kohima a Gweddi S. Ffransis o Assisi. Daeth y gwasanaeth i ben gyda’r Fendith.

Bedydd Esgob (Conffyrmasiwn)

Ddydd Sul 4 Tachwedd 2018 cynhaliwyd gwasaneth bedydd esgob ar gyfer Ardal Weinidogaeth Leol Bro Padarn yn Eglwys Newydd, Hafod. Yn ystod y gwasanaeth conffyrmiwyd 17 o unigolion o ardal Bro Padarn, sy’n ymestyn o Eglwys-fach i’r Hafod, gan yr Esgob Joanna. Ymhlith y sawl a gonffyrmiwyd roedd 2 o Gapel Bangor a 5 o Benrhyn-coch.