Darlleniadau’r

Trydydd Sul Cyn Y Garawys – 16.02.2025Septwagesima

Colect

Cyfoes

Hollalluog Dduw, ti yn unig all ddod â threfn i chwantau a serchiadau afreolus

y ddynoliaeth bechadurus: dyro ras i’th bobl i garu dy orchmynion

a deisyfu dy addewidion; fel, yn aml droeon y byd hwn,

y sefydlir ein calonnau’n ddiogel lle mae gwir lawenydd i’w gael;

trwy Iesu Grist ein Harglwydd, sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi,

yn undod yr Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr ac am byth. Amen.

Jeremeia 17. 5-10

Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Melltigedig fo’r sawl sydd â’i hyder mewn meidrolyn, ac yn gwneud cnawd yn fraich iddo, ac yn gwyro oddi wrth yr ARGLWYDD. Bydd fel prysgwydd yn y diffeithwch; ni fydd yn gweld daioni pan ddaw. Fe gyfanhedda fannau moelion yr anialwch, mewn tir hallt heb neb yn trigo ynddo. Bendigedig yw’r sawl sy’n hyderu yn yr ARGLWYDD, a’r ARGLWYDD yn hyder iddo. Y mae fel pren a blannwyd ar lan dyfroedd, yn gwthio’i wreiddiau i’r afon, heb ofni gwres pan ddaw, a’i ddail yn ir; ar dymor sych ni phrydera, ac ni phaid â ffrwytho. “Y mae’r galon yn fwy ei thwyll na dim, a thu hwnt i iachâd; pwy sy’n ei deall hi? Ond yr wyf fi, yr ARGLWYDD, yn chwilio’r galon ac yn profi cymhellion, i roi i bawb yn ôl eu ffyrdd ac yn ôl ffrwyth eu gweithredoedd.”

Salm 1

Testun Beiblaidd

Gwyn ei fyd y sawl nad yw’n dilyn cyngor y drygionus nac yn ymdroi hyd ffordd pechaduriaid nac yn eistedd ar sedd gwatwarwyr, ond sy’n cael ei hyfrydwch yng nghyfraith yr ARGLWYDD ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos. Y mae fel pren wedi ei blannu wrth ffrydiau dwr ac yn rhoi ffrwyth yn ei dymor, a’i ddeilen heb fod yn gwywo. Beth bynnag a wna, fe lwydda. Nid felly y bydd y drygionus, ond fel us yn cael ei yrru gan wynt. Am hynny, ni saif y drygionus yn y farn na phechaduriaid yng nghynulleidfa’r cyfiawn. Y mae’r ARGLWYDD yn gwylio ffordd y cyfiawn, ond y mae ffordd y drygionus yn darfod.

1 Corinthiaid 15. 12-20

Yn awr, os pregethir Crist, ei fod wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, sut y mae rhai yn eich plith yn dweud nad oes atgyfodiad y meirw? Os nad oes atgyfodiad y meirw, nid yw Crist wedi ei gyfodi chwaith. Ac os nad yw Crist wedi ei gyfodi, gwagedd yw’r hyn a bregethir gennym ni, a gwagedd hefyd yw eich ffydd chwi, a ninnau hefyd wedi ein cael yn dystion twyllodrus i Dduw, am ein bod wedi tystiolaethu iddo gyfodi Crist — ac yntau heb wneud hynny, os yw’n wir nad yw’r meirw’n cael eu cyfodi. Oherwydd os nad yw’r meirw’n cael eu cyfodi, nid yw Crist wedi ei gyfodi chwaith. Ac os nad yw Crist wedi ei gyfodi, ofer yw eich ffydd, ac yn eich pechodau yr ydych o hyd. Y mae’n dilyn hefyd fod y rhai a hunodd yng Nghrist wedi darfod amdanynt. Os ar gyfer y bywyd hwn yn unig yr ydym wedi gobeithio yng Nghrist, nyni yw’r bobl fwyaf truenus o bawb. Ond y gwir yw fod Crist wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, yn flaenffrwyth y rhai sydd wedi huno.

Luc 6. 17-26

Aeth i lawr gyda hwy a sefyll ar dir gwastad, gyda thyrfa fawr o’i ddisgyblion, a llu niferus o bobl o Jwdea gyfan a Jerwsalem ac o arfordir Tyrus a Sidon, a oedd wedi dod i wrando arno ac i’w hiacháu o’u clefydau; yr oedd y rhai a flinid gan ysbrydion aflan hefyd yn cael eu gwella. Ac yr oedd yr holl dyrfa’n ceisio cyffwrdd ag ef, oherwydd yr oedd nerth yn mynd allan ohono ac yn iacháu pawb.

Yna cododd ef ei lygaid ar ei ddisgyblion a dweud: “Gwyn eich byd chwi’r tlodion, oherwydd eiddoch chwi yw teyrnas Dduw. Gwyn eich byd chwi sydd yn awr yn newynog, oherwydd cewch eich digoni. Gwyn eich byd chwi sydd yn awr yn wylo, oherwydd cewch chwerthin. Gwyn eich byd pan fydd pobl yn eich casáu, yn eich ysgymuno a’ch gwaradwyddo, ac yn dirmygu eich enw fel peth drwg, o achos Mab y Dyn. Byddwch lawen y dydd hwnnw a llamwch o orfoledd, oherwydd, ystyriwch, y mae eich gwobr yn fawr yn y nef. Oherwydd felly’n union y gwnaeth eu hynafiaid i’r proffwydi.

“Ond gwae chwi’r cyfoethogion, oherwydd yr ydych wedi cael eich diddanwch. Gwae chwi sydd yn awr wedi eich llenwi, oherwydd daw arnoch newyn. Gwae chwi sydd yn awr yn chwerthin, oherwydd cewch ofid a dagrau. Gwae chwi pan fydd pawb yn eich canmol, oherwydd felly’n union y gwnaeth eu hynafiaid i’r gau broffwydi.

o Gair yr Arglwydd 2011 – yr Eglwys yng Nghymru Hawlfraint © Cyhoeddiadau’r Eglwys yng Nghymru 2011