Neuadd yr Eglwys

Neuadd yr Eglwys

Mae tâl am hurio Neuadd yr Eglwys yn ffynhonell incwm ddefnyddiol i’r Eglwys, yn ogystal â bod yn adnodd gwerthfawr i’r gymuned yn Llanbadarn

Mae llawr pren y Neuadd yn ei gwneud yn lle poblogaidd. Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn defnyddio’r Neuadd ar ddydd Llun a Dydd Iau a chynelir Dosbarth Colli Pwysau ar ddydd Mercher. Defnyddir y Neuadd fel gorsaf bleidleisio ym mhob etholiad.

Ceir adnoddau ardderchog yn y gegin ac mae’r Neuadd wedi dod yn lle poblogaidd ar gyfer cynnal partïon pen-blwydd i’r hen a’r ifainc fel ei gilydd. Yn ddiweddar cafodd y Neuadd ei hurio a’i haddurno’n braf ar gyfer parti priodas.

Yn y dyddiau llwm hyn mae cost hurio Neuadd yr Eglwys yn rhesymol.

Ffioedd Hurio o 1  Rhagfyr 2023

Y Brif Neuadd

Digwyddiadau un tro / Corfforaethol £20.00 yr awr (Isafswm £40.00)

Defnydd rheolaidd gan Grwpiau Lleol £12.00 yr awr (Isafswm £24.00)

Y Brif Neuadd a’r Gegin

Digwyddiadau un tro / Corfforaethol  – £20.00 yn ychwanegol at y tâl uchod

Defnydd rheolaidd gan Grwpiau Lleol – £12.00 yn ychwanegol at y tâl uchod

Ystafell Bwyllgor – £7.00 yr awr (Isafswm £14.00)

Partïon Plant – £60.00 am 2.5 awr gan gynnwys defnydd o’r Gegin.

Ni chaiff y Neuadd ganiatâd gan ein hyswirwyr i gael cestyll neidio ar y safle, ac wedyn bydd rhaid i ni eu gwahardd.

Tâl am Ganslo – Os yw cais am hurio’r Neuadd yn cael ei ganslo o fewn mis i’r dyddiad hurio yna codi’r ffi o £30.00 neu gwerth y ffi hurio gan ddibynu pa un yw’r isaf.

Mse croeso bob amser i ragor o ddefnydd o’r Neuadd, felly os ydych chi neu rai o’ch ffrindiau â diddordeb mewn hurio’r Neuadd yna cysylltwch â’r Ficerdy ar 01970624638 neu ebost: churchhall.llanbadarn@gmail.com