Grŵp Gweddi
Grŵp Gweddi
Mae’r Grŵp Gweddi yn cyfarfod bob dydd Mercher am 5.00pm (17.00) yng Nghapel Mair. Os NAD yw’r grŵp yn cyfarfod bydd cyhoeddiad i’r perwyl yn y gwasanaethau ar y Sul blaenorol. Nid grŵp i bobol arbennig yw hwn ac felly mae croeso i bawb ymuno gyda ni. Bob wythnos byddwn ni’n dechrau gyda gweddi, yna darlleniad o’r ysgrythurau a’r Colect priodol. Yna ceir rhyw bum munud o ddistawrwydd ar gyfer myfyrio neu weddi dawel. Yna fe fyddwn yn gweddïo dros yr Eglwys – y Cymundeb Anglicanaidd, yr Esgob a’r Esgobaeth, y Plwyf, wedi’i ddilyn gan adeg arall o ddistawrwydd. Wedi’r ail gyfnod hwn o ddistawrwydd gwahoddir pawn sydd am wneud i weddïo fel arfer dros ein byd a’i helbulon, yr rhai sydd mewn unrhyw fath o angen megis yn glaf, trist a gofidus a thros y rhai sydd wedi mynd o’n blaen mewn ffydd. Yn olaf, ceir rhai gweddïasu priodol i gloi ac fe glymir y cyfan ynghyd trwy ddweud y Gras. Bydd y Grŵp yn para am ryw 25 munud. Os ydych chi am gyfle am amser tawel bob wythnos i ddod ynghyd i weddïo gyda chyd-Gristnogion, yna mae croeso ichi ymuno gyda ni. Byddwn yn falch iawn i’ch gweld.
G. Keith Jones (Darllenydd).
FE WNAETH Y GRŴP GWEDDI A GYFARFU AM Y TRO CYNTAF AR 22.11.2006 GYFARFOD AM Y TRO OLAF YN EI FFURF BRESENNOL DDYDD MERCHER 30 MEDI 2015.
Rhai ffotograffau yn dangos y paentiad o Badarn Sant a roddwyd i’r eglwys yn ddiweddar ac sydd i’w weld yng Nghapel Mair.
Yr Allor
Y paentiad ger yr allor.
Mae’r paentiad o Badarn Sant ar y chwith i’r ddelw o Fair Forwyn Fendigaid gyda’r baban Iesu (llun isod).