Darlleniadau’r

Deyrnas 4 – 24.11.2024

Colect

Cyfoes

Dad tragwyddol, yr esgynnodd dy Fab Iesu Grist i orseddfainc nef

iddo deyrnasu dros bob dim yn Arglwydd ac yn Frenin:

cadw’r Eglwys yn undod yr Ysbryd ac yn rhwymyn tangnefedd,

a dwg yr holl greadigaeth i addoli wrth ei draed ef;

caniatâ hyn er mwyn dy Fab Iesu Grist,

i’r hwn gyda thi a’r Ysbryd Glân

y bo’r deyrnas, y gallu a’r gogoniant, yn oes oesoedd. Amen.

Daniel 7. 9-10, 13, 14

Fel yr oeddwn yn edrych, gosodwyd y gorseddau yn eu lle ac eisteddodd Hen Ddihenydd; yr oedd ei wisg cyn wynned â’r eira, a gwallt ei ben fel gwlân pur; yr oedd ei orsedd yn fflamau o dân, a’i holwynion yn dân crasboeth. Yr oedd afon danllyd yn llifo allan o’i flaen. Yr oedd mil o filoedd yn ei wasanaethu a myrdd o fyrddiynau’n sefyll ger ei fron. Eisteddodd y llys ac agorwyd y llyfrau. Ac fel yr oeddwn yn edrych ar weledigaethau’r nos, Gwelais un fel mab dyn yn dyfod ar gymylau’r nef; a daeth at yr Hen Ddihenydd a chael ei gyflwyno iddo. Rhoddwyd iddo arglwyddiaeth a gogoniant a brenhiniaeth, i’r holl bobloedd o bob cenedl ac iaith ei wasanaethu. Y mae ei arglwyddiaeth yn dragwyddol a digyfnewid, a’i frenhiniaeth yn un na ddinistrir.

Salm 93

Salmau Pwyntiedig

Siant sengl

Y mae’r / Arglwydd • yn / frenin :

y mae / wedi • ei / wisgo • â / mawredd,

Y mae’r Arglwydd wedi ei wisgo • a nerth yn / wregys / iddo :

yn wir, y mae’r byd yn / sicr, ac / nis sy/mudir;

Y mae dy orsedd wedi ei se/fydlu • er/ioed :

yr wyt / ti er / tragwy/ddoldeb.

Cododd y dyfroedd, O Arglwydd •

     cododd y / dyfroedd • eu / llais :

cododd y / dyfroedd / eu – / rhu.

Cryfach na sŵn dyfroedd mawrion •

     cryfach na / thonnau’r / môr :

yw’r / Arglwydd / yn yr • u/chelder.

Y mae dy dystio/laethau’n • sicr / iawn :

sancteiddrwydd sy’n gweddu i’th / dŷ, O / Arglwydd, hyd / byth.

Datguddiad 1. 4b-8

Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth yr hwn sydd a’r hwn oedd a’r hwn sydd i ddod, ac oddi wrth y saith ysbryd sydd gerbron ei orsedd, ac oddi wrth Iesu Grist, y tyst ffyddlon, y cyntafanedig oddi wrth y meirw a llywodraethwr brenhinoedd y ddaear. I’r hwn sydd yn ein caru ni ac a’n rhyddhaodd ni oddi wrth ein pechodau â’i waed, ac a’n gwnaeth yn urdd frenhinol, yn offeiriaid i Dduw ei Dad, iddo ef y bo’r gogoniant a’r gallu byth bythoedd! Amen.

Wele, y mae’n dyfod gyda’r cymylau, a bydd pob llygad yn ei weld, ie, a’r rhai a’i trywanodd, a bydd holl lwythau’r ddaear yn galaru o’i blegid ef. Boed felly! Amen.

“Myfi yw Alffa ac Omega,” medd yr Arglwydd Dduw, yr hwn sydd a’r hwn oedd a’r hwn sydd i ddod, yr Hollalluog.

Ioan 18. 33-37

Yna, aeth Pilat i mewn i’r Praetoriwm eto. Galwodd Iesu, ac meddai wrtho, “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Atebodd Iesu, “Ai ohonot dy hun yr wyt ti’n dweud hyn, ai ynteu eraill a ddywedodd hyn wrthyt amdanaf fi?” Atebodd Pilat, “Ai Iddew wyf fi? Dy genedl dy hun a’i phrif offeiriaid sydd wedi dy drosglwyddo di i mi. Beth wnaethost ti?” Atebodd Iesu, “Nid yw fy nheyrnas i o’r byd hwn. Pe bai fy nheyrnas i o’r byd hwn, byddai fy ngwasanaethwyr i yn ymladd, rhag imi gael fy nhrosglwyddo i’r Iddewon. Ond y gwir yw, nid dyma darddle fy nheyrnas i.” Yna meddai Pilat wrtho, “Yr wyt ti yn frenin, ynteu?” “Ti sy’n dweud fy mod yn frenin,” atebodd Iesu. “Er mwyn hyn yr wyf fi wedi cael fy ngeni, ac er mwyn hyn y deuthum i’r byd, i dystiolaethu i’r gwirionedd. Y mae pawb sy’n perthyn i’r gwirionedd yn gwrando ar fy llais i.”

o Gair yr Arglwydd 2011 – yr Eglwys yng Nghymru Hawlfraint © Cyhoeddiadau’r Eglwys yng Nghymru 2011