Darlleniadau’r

Y Drindod 16. 05.10. 2025

Colect

Cyfoes

O Arglwydd, erfyniwn arnat

yn drugarog wrando gweddïau dy bobl sy’n galw arnat;

a chaniatâ iddynt ddeall a gwybod y pethau y dylent eu gwneuthur,

a chael hefyd ras a gallu i’w cyflanwi’n ffyddlon;

trwy Iesu Grist ein Harglwydd, sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi,

yn undod yr Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr ac am byth. Amen.

Parhaol

Galarnad 1. 1-6

O mor unig yw’r ddinas a fu’n llawn o bobl! Y mae’r un a fu’n fawr ymysg y cenhedloedd yn awr fel gweddw, a’r un a fu’n dywysoges y taleithiau dan lafur gorfod.

Y mae’n wylo’n chwerw yn y nos, a dagrau ar ei gruddiau; nid oes ganddi neb i’w chysuro o blith ei holl gariadon; y mae ei chyfeillion i gyd wedi ei bradychu, ac wedi troi’n elynion iddi.

Aeth Jwda i gaethglud mewn trallod ac mewn gorthrwm mawr; y mae’n byw ymysg y cenhedloedd, ond heb gael lle i orffwys; y mae ei holl erlidwyr wedi ei goddiweddyd yng nghanol ei gofidiau.

Y mae ffyrdd Seion mewn galar am nad oes neb yn dod i’r gwyliau; y mae ei holl byrth yn anghyfannedd, a’i hoffeiriaid yn griddfan; y mae ei merched ifainc yn drallodus, a hithau mewn chwerwder.

Daeth ei gwrthwynebwyr yn feistri arni, a llwyddodd ei gelynion, oherwydd y mae’r ARGLWYDD wedi dwyn trallod arni o achos amlder ei throseddau; y mae ei phlant wedi mynd ymaith yn gaethion o flaen y gelyn.

Diflannodd y cyfan o’i hanrhydedd oddi wrth ferch Seion; y mae ei thywysogion fel ewigod sy’n methu cael porfa; y maent wedi ffoi, heb nerth, o flaen yr erlidwyr.

Cantigl: Galarnad 3. 19-26 neu Salm 137 neu 137. 1-6

Testun Beiblaidd

Galarnad 3. 19-26

Cofia fy nhrallod a’m crwydro, y wermod a’r bustl. Yr wyf fi yn ei gofio’n wastad, ac wedi fy narostwng. Meddyliaf yn wastad am hyn, ac felly disgwyliaf yn eiddgar.

Nid oes terfyn ar gariad yr ARGLWYDD, ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau. Y maent yn newydd bob bore, a mawr yw dy ffyddlondeb. Dywedais, “Yr ARGLWYDD yw fy rhan, am hynny disgwyliaf wrtho.”

Da yw’r ARGLWYDD i’r rhai sy’n gobeithio ynddo, i’r rhai sy’n ei geisio. Y mae’n dda disgwyl yn dawel am iachawdwriaeth yr ARGLWYDD.

Salm 137

Ger afonydd Babilon yr oeddem yn eistedd ac yn wylo wrth inni gofio am Seion. Ar yr helyg yno bu inni grogi ein telynau, oherwydd yno gofynnodd y rhai a’n caethiwai am gân, a’r rhai a’n hanrheithiai am ddifyrrwch. “Canwch inni,” meddent, “rai o ganeuon Seion.”

Sut y medrwn ganu cân yr ARGLWYDD mewn tir estron? Os anghofiaf di, Jerwsalem, bydded fy neheulaw’n ddiffrwyth; bydded i’m tafod lynu wrth daflod fy ngenau os na chofiaf di, os na osodaf Jerwsalem yn uwch na’m llawenydd pennaf.

(7) O ARGLWYDD, dal yn erbyn pobl Edom ddydd gofid Jerwsalem, am iddynt ddweud, “I lawr â hi, i lawr â hi hyd at ei sylfeini.” O ferch Babilon, a ddistrywir, gwyn ei fyd y sawl sy’n talu’n ôl i ti am y cyfan a wnaethost i ni. Gwyn ei fyd y sawl sy’n cipio dy blant ac yn eu dryllio yn erbyn y graig.

2 Timotheus 1. 1-14

Paul, apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, yn unol â’r addewid am y bywyd sydd yng Nghrist Iesu, at Timotheus, ei blentyn annwyl. Gras a thrugaredd a thangnefedd i ti oddi wrth Dduw y Tad a Christ Iesu ein Harglwydd.

Yr wyf yn diolch i Dduw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu â chydwybod bur fel y gwnaeth fy hynafiaid, pan fyddaf yn cofio amdanat yn fy ngweddïau, fel y gwnaf yn ddi-baid nos a dydd. Wrth gofio am dy ddagrau, rwy’n hiraethu am dy weld a chael fy llenwi â llawenydd. Daw i’m cof y ffydd ddiffuant sydd gennyt, ffydd a drigodd gynt yn Lois, dy nain, ac yn Eunice, dy fam, a gwn yn sicr ei bod ynot tithau hefyd. O ganlyniad, yr wyf yn dy atgoffa i gadw yngynn y ddawn a roddodd Duw iti, y ddawn sydd ynot trwy arddodiad fy nwylo i. Oherwydd nid ysbryd sy’n peri llwfrdra a roddodd Duw i ni, ond ysbryd sy’n peri nerth a chariad a hunanddisgyblaeth.

Felly, na foed cywilydd arnat roi tystiolaeth am ein Harglwydd, na chywilydd ohonof fi, ei garcharor ef; ond cymer dy gyfran o ddioddefaint dros yr Efengyl, trwy’r nerth yr ydym yn ei gael gan Dduw. Ef a’n hachubodd ni, a’n galw â galwedigaeth sanctaidd, nid ar sail ein gweithredoedd ond yn unol â’i arfaeth ei hun a’i ras, y gras a roddwyd inni yng Nghrist Iesu cyn dechrau’r oesoedd, ond a amlygwyd yn awr drwy ymddangosiad ein Gwaredwr, Crist Iesu. Oherwydd y mae ef wedi dirymu marwolaeth, a dod â bywyd ac anfarwoldeb i’r golau trwy’r Efengyl. I’r Efengyl hon yr wyf fi wedi fy mhenodi’n bregethwr, yn apostol ac yn athro. Dyma’r rheswm, yn wir, fy mod yn dioddef yn awr. Ond nid oes arnaf gywilydd o’r peth, oherwydd mi wn pwy yr wyf wedi ymddiried ynddo, ac rwy’n gwbl sicr fod ganddo ef allu i gadw’n ddiogel hyd y Dydd hwnnw yr hyn a ymddiriedodd i’m gofal. Cymer fel patrwm i’w ddilyn y geiriau iachusol a glywaist gennyf fi, wrth fyw yn y ffydd a’r cariad sydd yng Nghrist Iesu. Cadw’n ddiogel, trwy nerth yr Ysbryd Glân sy’n trigo ynom, y peth gwerthfawr a ymddiriedwyd i’th ofal.

Luc 17. 5-10

Meddai’r apostolion wrth yr Arglwydd, “Cryfha ein ffydd.” Ac meddai’r Arglwydd, “Pe bai gennych ffydd gymaint â hedyn mwstard, fe allech ddweud wrth y forwydden hon, ‘Coder dy wreiddiau a phlanner di yn y môr’, a byddai’n ufuddhau i chwi.

“Os oes gan un ohonoch was sy’n aredig neu’n bugeilio, a fydd yn dweud wrtho pan ddaw i mewn o’r caeau, ‘Tyrd yma ar unwaith a chymer dy le wrth y bwrdd’? Na, yr hyn a ddywed fydd, ‘Paratoa swper imi; torcha dy wisg a gweina arnaf nes imi orffen bwyta ac yfed; ac wedyn cei fwyta ac yfed dy hun.’ A yw’n diolch i’w was am gyflawni’r gorchmynion a gafodd? Felly chwithau; pan fyddwch wedi cyflawni’r holl orchmynion a gawsoch, dywedwch, ‘Gweision ydym, heb unrhyw deilyngdod; cyflawni ein dyletswydd a wnaethom.'”

Cysylltedig

Habacuc 1. 1-4; 2. 1-4

Yr oracl a dderbyniodd Habacuc y proffwyd mewn gweledigaeth.

Am ba hyd, ARGLWYDD, y gwaeddaf am gymorth, a thithau heb wrando, ac y llefaf arnat, “Trais!” a thithau heb waredu? Pam y peri imi edrych ar ddrygioni, a gwneud imi weld trallod? Anrhaith a thrais sydd o’m blaen, cynnen a therfysg yn codi. Am hynny, â’r gyfraith yn ddi-rym, ac nid yw cyfiawnder byth yn llwyddo; yn wir y mae’r drygionus yn amgylchu’r cyfiawn, a daw cyfiawnder allan yn wyrgam.

Safaf ar fy nisgwylfa, a chymryd fy safle ar y tŵr; syllaf i weld beth a ddywed wrthyf, a beth fydd ei ateb i’m cwyn. Atebodd yr ARGLWYDD fi: “Ysgrifenna’r weledigaeth, a gwna hi’n eglur ar lechen, fel y gellir ei darllen wrth redeg; oherwydd fe ddaw eto weledigaeth yn ei hamser — daw ar frys i’w chyflawni, a heb ball. Yn wir nid oeda; disgwyl amdani, oherwydd yn sicr fe ddaw, a heb fethu. Yr un nad yw ei enaid yn uniawn sy’n ddi-hid, ond bydd y cyfiawn fyw trwy ei ffyddlondeb.”

Salm 37. 1-9

Testun Beiblaidd

Na fydd yn ddig wrth y rhai drygionus, na chenfigennu wrth y rhai sy’n gwneud drwg. Oherwydd fe wywant yn sydyn fel glaswellt, a chrino fel glesni gwanwyn.

Ymddiried yn yr ARGLWYDD a gwna ddaioni, iti gael byw yn y wlad mewn cymdeithas ddiogel. Ymhyfryda yn yr ARGLWYDD, a rhydd iti ddeisyfiad dy galon.

Rho dy ffyrdd i’r ARGLWYDD; ymddiried ynddo, ac fe weithreda. Fe wna i’th gywirdeb ddisgleirio fel goleuni a’th uniondeb fel haul canol dydd.

Disgwyl yn dawel am yr ARGLWYDD, aros yn amyneddgar amdano; paid â bod yn ddig wrth yr un sy’n llwyddo, y gŵr sy’n gwneud cynllwynion.

Paid â digio; rho’r gorau i lid; paid â bod yn ddig, ni ddaw ond drwg o hynny. Oherwydd dinistrir y rhai drwg, ond bydd y rhai sy’n gobeithio yn yr ARGLWYDD yn etifeddu’r tir.

2 Timotheus 1. 1-14

Luc 17. 5-10

o Gair yr Arglwydd 2011 – yr Eglwys yng Nghymru Hawlfraint © Cyhoeddiadau’r Eglwys yng Nghymru 2011