Canu’r Clychau

Canu’r Clychau

Er y ddeunawfed ganrif y mae’r clychau sydd yn nhŵr anferth yr eglwys wedi galw pobl i addoli ac wedi nodi digwyddiadau pwysig ym mywyd y genedl. Chwe chloch oedd yno i ddechrau ond yn 1885, pan adnewyddwyd rhannau o’r eglwys, cafodd y chwe chloch eu hadnewyddu ac ychwanegwyd atynt ddwy gloch arall. Ffwndri Rudhall a daflodd y gloch hynaf yn y tŵr yng Nghaerloyw yn 1749.

Adnewyddu Adeg y Mileniwm

Ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf gwnaethpwyd gwaith ar y ffrâm a chymerwyd y cyfle i gynyddu’r caniad o 8 i 10 o glychau. Codwyd swm sylweddol o arian gan aelodau’r eglwys a chan y gymuned leol a chwblhawyd y gwaith yn ystod haf 2001.

Heddiw mae gan Eglwys Llanbadarn un o’r casgliadau gorau o glychau yng Nghymru a daw clochyddion o bob man i’w canu. Cawsom ymweliad yn ystod yr haf eleni gan glochyddion o Unol Daleithiau’r Amerig.

Os hoffech ddysgu bod yn glochydd mae croeso ichi ddod i’r ymarfer a gynhelir bob nos IAU o 7.30pm.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â John Wildig drwy e-bost neu ffoniwch (01970) 623713.

Ymholiadau ynglŷn â Chanu’r Clychau – Capten y Tŵr  – Fran Disbury – 07807446209

ebost    fran.disbury@gmail.com

Dirprwy Gapten y Tŵr ac Ysgrifennydd  – Victoria Evans – 07514259313

ebost vic.evans4299@gmail.com