Plant Dewi

Plant Dewi

Mae Plant Dewi yn broject sy’n gweithio gyda phobl ifanc yn Esgobaeth Tyddewi.

Dyma rai esiamplau o fentrau Plant Dewi:-

  • Canolfannau Teuluol mewn nifer o drefi
  • Canolfan i Bobl Ifainc
  • Cyrsiau ar fod yn Rhieni
  • Darpariaeth ar ôl Ysgol
  • Clybiau Gwyliau

Blychau Casglu

Bu rhai plwyfolion yn y gynulleidfa yn cefnogi’r elusen dros y blynyddoedd wrth gymryd blychau casglu a’i lenwi â newid mân yn ystod y flwyddyn.

Os hoffech chi gael blwch casglu yna holwch yn yr Eglwys. Neu os hoffech roi rhodd i gynorthwyo gwaith Plant Dewi yna unwaith eto holwch yn yr Eglwys.

Cyfri Blynyddol Blychau Casglu Plant Dewi

Os oes gyda chi flwch casglu Plant Dewi neu os ydych am roi cyfraniad a wnewch chi ddod â’r arian i’r eglwys ar fore Sul cyn diwedd mis Ionawr.