Hanes yr Eglwys

Hanes yr Eglwys

Y tŵr enfawr sy’n eich taro chi gyntaf; mae ei anferthedd yn tystio i bwysigrwydd yr eglwys hon yn 1257 pan gafodd ei hail-adeiladu wedi tân. Wrth fynd i mewn i’r eglwys byddwch yn sylwi ar y bwa carreg sy’n cylchynu’r drws deheuol ac a ddaeth, efallai, o Ystrad Fflur. Y mae’r eglwys ar ffurf croes ac iddi nenfydau pren a adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r ffenestr ddwyreiniol drawiadol yn darlunio gweddnewidiad Crist. Wrth fynd ymlaen drwy gorff yr eglwys fe welwch ffenestr a gynlluniwyd gan John Petts ac a roddwyd gan yr Athro Parrott “Cerddoriaeth er gogoniant i Dduw” yw thema’r ffenestr.

Ewch ymlaen a throwch i’r chwith, yno mae Capel Mair ac ynddo mae cerflun o’r Forwyn a’r Baban a roddwyd gan y diweddar Ganon Geraint Vaughan Jones er cof am ei rieni. Ymlaen eto i’r gangell a ail-adeiladwyd yn y 15fed ganrif a phryd hynny byddai sgrîn a chroglofft yn rhan o’r adeilad – nid oes dim ar ôl heddiw ond y grisiau cerrig yn y mur. Ar y llawr yn y gangell y mae carreg i goffáu’r hynafiaethydd a’r ysgolhaig Lewis Morris a fu’n gweithio yn yr ardal ac y mae cofebau hefyd i goffáu teuluoedd Nanteos a Gogerddan.

Wrth fynd yn ôl at gorff yr eglwys trowch i’r transept deheuol lle gwelir arddangosfa i gyflwyno hen hanes yr ardal. Ar y sgrîn bren y mae llinellau o waith Dafydd ap Gwilym, brodor o’r fro ac un o feirdd pwysicaf y Canol Oesoedd yn Ewrop. O’ch blaen y mae allor isel ag arwydd chi-ro arni i goffáu Padarn Sant. Credir ei fod ef yn hanu o dde-ddwyrain Cymru a gwyddys ei fod yn cyd-oesi â Dewi a Theilo. Sefydlodd glas yn Llanbadarn a bu mewn gwrthdaro â Maelgwn Gwynedd. Fe welwch hefyd ddwy groes garreg a allai fod yn gyn-Gristnogol ond a ddefnyddiwyd rhwng y 9fed ganrif a’r unfed ganrif ar ddeg at bwrpasau Cristnogol. Yn y mur uwchben y mae ffenestri sy’n dyddio o ddau-ddegau’r 20fed ganrif ac sy’n anrhydeddu Padarn, Dewi a Theilo. Yn y rhan hon hefyd y mae copi o’r Beibl a gyfieithiwyd i’r Gymraeg yn 1588 gan William Morgan a fu’n ficer yn yr eglwys hon. Yn ystafell Padarn ar y chwith ceir ffenestr sy’n cyflwyno themâu o’r llawysgrif ‘Buchedd Padarn’. Yno hefyd mae cerflun porslen sy’n darlunio hanesyn o’r Fuchedd. Yr ochr draw coffeir Sulien, arweinydd y clas yn Llanbadarn ac Esgob Tyddewi. Yr oedd y clas yn amser Sulien a’i feibion a’i wyrion yn sgriptoriwm pwysig yn cynhyrchu testunau ac yn copïo llawysgrifau; yma lluniodd Rhygyfarch, un o feibion Sulien, y “Vita Davidis”. Yr oedd Ieuan, mab arall iddo, yn gopïydd llawysgrifau ac yn fardd. Yn y rhan hon hefyd y mae ffenestr i ‘Seren Burma’ a Beddargraff Kohima. Ac yn parhau ag atgofion am ryfel gellir gweld yn yr eglwys gofeb i’r Uwchgapten, y Cadfridog Lewis Pugh o Gwmerau, Glandyfi a fu’n ymladd yn y dwyrain pell yn yr Ail Ryfel Byd. Yr oedd yn berthynas i’r Brigadydd, y Cadfridog Lewis Pugh Evans o Lovesgrove a fu’n warden yn eglwys Llanbadarn Fawr ac a goffeir ger y gofgolofn yn y pentref. Enillodd Groes Victoria am ddewrder yn y Rhyfel Byd cyntaf tra oedd yn gyrnol yng nghatrawd Swydd Caerlwytgoed.